Tag: Cydraddoldeb

Mis Hanes pobl Lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol a Thrawsrywiol (LGBT) 2016

Thema Mis Hanes LGBT eleni yw Crefydd, Cred ac Athroniaeth.

Logo ar gyfer Mis Hanes Pobl Lesbiaidd, Hoyw, Ddeurywiol a Thrawsrywiol 2016

Mae llawer o’r sgwrs ynghylch cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth o ran rhywedd a chrefydd yn awgrymu bod hawliau credinwyr crefyddol ar y naill law, a hawliau pobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol (LGBT) ar y llaw arall fel petaen nhw’n gwbl annibynnol ar ei gilydd. Ond eto bob dydd, mae miliynau o bobl LGBT yn cyfuno eu ffydd â’u cyfeiriadedd rhywiol neu eu hunaniaeth o ran rhywedd.

Ym mis Tachwedd 2013, cynhaliodd Rhyng-grŵp Senedd Ewrop ar Hawliau LGBT drafodaeth ar gyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth o ran rhywedd a chrefydd. Roedd y digwyddiad yn cynnwys fideo 5 munud o hyd yn dangos tystiolaeth bersonol gan bobl lesbiaidd a hoyw crefyddol o bob cwr o’r byd. Hefyd yn y digwyddiad, cyflwynwyd adroddiad gan Human Rights Without Frontiers o’r enw LGBT People, the Religions & Human Rights in Europe. Er gwaethaf yr hyn y mae dadl mor rhanedig yn ei awgrymu, dadleuwyd bod gwerthoedd fel rhyddid, cydraddoldeb ac urddas dynol yn dir cyffredin rhwng credinwyr crefyddol a’r rhai sy’n amddiffyn hawliau dynol pobl LGBT.

Drwy gydol mis Chwefror, bydd Stonewall, elusen yn y DU sy’n hyrwyddo cydraddoldeb LGBT, yn cyflwyno proffiliau o bobl LGBT ysbrydoledig sydd â gwahanol grefyddau/credoau. Bydd y proffiliau yn cynnwys pobl sy’n Sikhaidd, Mwslimaidd, Catholig, Cristnogol, Iddewig, Hindŵ a Dyneiddwyr.

Gallwch ddarllen mwy am Fis Hanes LGBT a thema crefydd, cred ac athroniaeth yng  Nghylchgrawn Mis Hanes LGBT neu ewch i wefan swyddogol Mis Hanes LGBT am fanylion yr holl weithgareddau, digwyddiadau a newyddion.

Logo 100 Cyflogwr Gorau Stonewall         Logo OUT-NAW, Rhwydwaith Cydraddoldeb yn y Gweithle LGBT y Cynulliad

Llun staff LGBT y Cynulliad a Chyfeillion yn dal y faner enfys ar gyfer mis Hanes LGBT
Llun staff LGBT y Cynulliad a Chyfeillion yn dal y faner enfys ar gyfer mis Hanes LGBT

Yn y Cynulliad Cenedlaethol rydym wedi ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb LGBT. Yn hynny o beth, rydym yn falch iawn o fod yn y trydydd safle ym Mynegai Cydraddoldeb yn y Gweithle Stonewall 2016 o’r sefydliadau LGBT-gyfeillgar gorau yn y DU. Rydym hefyd yn falch iawn o gael eu henwi fel Cyflogwr Gorau’r Sector Cyhoeddus yng Nghymru ar gyfer pobl LGBT am y drydedd flwyddyn yn olynol.

Gallwch gael gwybod mwy am ein gwaith yn hyrwyddo cydraddoldeb LGBT mewn mannau eraill ar ein blog, lle mae gennym nifer o erthyglau perthnasol, gan gynnwys Mis Hanes LGBT 2015, aelodau o’n staff sy’n Fodelau Rôl Stonewall Cymru, lleoliad gwaith i fyfyrwyr Stonewall Cymru, dathlu Diwrnod Gwelededd Deurywiol, a hyrwyddo cydraddoldeb trawsrywiol.

I gael rhagor o wybodaeth am sut yr ydym yn gwerthfawrogi ein pobl ac i gael gwybodaeth am gyfleoedd gwaith cyfredol, ewch i: www.cynulliad.cymru/swyddi

Gallech hefyd ymweld â’r Senedd, cartref Cynulliad Cenedlaethol Cymru i weld arddangosfa o rai o fodelau rôl LGBT Cymru Stonewall Cymru.

Rydym yn falch o fod wedi cadw Gwobr Mynediad @Autism am yr ail flwyddyn yn olynol!

Mae ystad Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi ennill Gwobr Mynediad y Gymdeithas Awtistiaeth Genedlaethol am yr ail flwyddyn yn olynol. Mae’r Wobr yn safon arfer gorau ar gyfer adeiladau a chyfleusterau, a gynlluniwyd er mwyn rhoi sicrwydd i bobl ag awtistiaeth a’u teuluoedd a’u gofalwyr. Mae’n dangos bod y cyfleusterau’n hylaw i bobl ag awtistiaeth, a bod yna ymrwymiad i sicrhau bod pobl ag awtistiaeth yn gallu eu defnyddio.

Autism Award photo - PO and SM
Llywydd y Cynulliad, y Fonesig Rosemary Butler, a Sandy Mewies AC yn dal Gwobr Mynediad Awtistiaeth y Gymedeithas Awtistiaeth Genedlaethol

“Mae hyn yn gydnabyddiaeth arall eto bod y Cynulliad Cenedlaethol o ddifrif am y mater o gydraddoldeb mynediad,” meddai’r Llywydd, Y Fonesig Rosemary Butler AC.

“Er mwyn i ddemocratiaeth weithio’n iawn yng Nghymru, rhaid i’w sefydliad deddfu ymgysylltu â phawb yng Nghymru, ac mae hynny’n golygu sicrhau bod ein cyfleusterau, ein gwasanaethau a’n gwybodaeth yn hygyrch i bawb.”

Ychwanegodd Sandy Mewies AC, Comisiynydd y Cynulliad sydd â chyfrifoldeb dros gydraddoldeb:

“Mae’r Wobr Mynediad Awtistiaeth yn dangos ymrwymiad y Cynulliad i fod yn lleoliad hygyrch ar gyfer ymwelwyr sydd ar y sbectrwm awtistiaeth.

Isod mae rhai o’r pethau a wnaeth y Cynulliad er mwyn cyflawni’r achrediad:

  • Creu adran ar ein gwefan yn benodol ymwelwyr sydd ag awtistiaeth.  Mae’r adran hon yn darparu lincs at adnoddau gwybodaeth a gynlluniwyd yn benodol mewn fformatau gwahanol;
  • Sefydlwyd ardaloedd tawel dynodedig ar gyfer pobl ag awtistiaeth i orffwys ac ymlacio;
  • Derbyniodd staff perthnasol hyfforddiant hyder o ran anabledd, sy’n cynnwys adran ar awtistiaeth;
  • Nodwyd Pencampwyr Awtistiaeth ar draws y sefydliad;
  • Sefydlwyd cysylltiadau gyda’r Gymdeithas Awtistiaeth Genedlaethol;
  • Crëwyd ffurflen adborth, er mwyn galluogi adborth parhaus gan ymwelwyr ag awtistiaeth.
Logo Gwobr Mynediad Cymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth
Logo Gwobr Mynediad Cymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth

 

Bwriadu ymweld â’r Cynulliad? Edrychwch ar ein gwefan neu cysylltwch â ni dros y ffôn, ar 0300 200 6565, neu e-bostiwch: cysylltu@cynulliad.cymru.

 

Diwrnod Rhyngwladol Pobl Anabl – 3 Rhagfyr

I nodi Diwrnod Rhyngwladol Pobl Anabl, rydym am eich hysbysu am rywfaint o’r gefnogaeth sydd ar gael gennym ar gyfer pobl anabl.

Rydym yn arddel y model cymdeithasol o anabledd. Mae’r model cymdeithasol yn edrych ar y rhwystrau y mae cymdeithas yn eu gosod rhwng pobl anabl a’u mynediad at nwyddau a gwasanaethau. Mae’n ceisio dileu rhwystrau diangen sy’n atal pobl anabl rhag cymryd rhan yn y gymdeithas, rhag cael gwaith a rhag byw’n annibynnol. Mae’r model cymdeithasol yn ceisio ffyrdd o gael gwared ar rwystrau i gynhwysiant. Mae hefyd yn cydnabod y gall agweddau at anableddau greu rhwystrau diangen i gynhwysiant ac mae’n mynnu bod pobl yn cymryd camau i ddileu’r rhwystrau hyn.

Logo yn gadarn o blaid pobl anabl
Logo yn gadarn o blaid pobl anabl

Er mwyn annog pobl anabl i wneud cais, rydym yn gweithredu cynllun gwarantu cyfweliad ar gyfer pobl anabl. Mae’r cynllun yn gwarantu cyfweliad i bobl anabl sy’n bodloni’r meini prawf sylfaenol ar gyfer swydd wag. Byddwn yn gwneud addasiadau rhesymol i’r ymgeiswyr anabl sy’n cael cyfweliad.

 

 

 

Ar gyfer ein staff anabl:

  • Mae ein polisïau staff yn cynnwys pobl anabl. Er enghraifft, mae ein polisi urddas yn y gweithle yn un cadarn er mwyn delio ag ymddygiad amhriodol.
  • Mae gennym rwydwaith staff anabledd gweithgar o’r enw EMBRACE. Mae EMBRACE yn rhoi cefnogaeth cymheiriaid i staff anabl ac mae’n ein helpu i hyrwyddo cydraddoldeb ar gyfer pobl anabl. Mae hefyd yn ein helpu i ystyried anghenion pobl anabl yn ein penderfyniadau ac wrth gynllunio polisïau.
  • Rydym yn darparu hyfforddiant sy’n ymwneud ag anabledd, gan gynnwys hyfforddiant i gefnogi staff ac ymwelwyr anabl, ymwybyddiaeth o fod yn fyddar a hyfforddiant BSL, hyfforddiant ymwybyddiaeth o awtistiaeth, a hyfforddiant dementia-gyfeillgar.
  • Mae gennym Nyrs Iechyd Galwedigaethol ar y safle a mynediad i Raglen Cymorth i Weithwyr sy’n gallu darparu gwasanaethau cwnsela i staff.

 

Logo Embrace, ein rhwydwaith staff ag anabledd
Logo Embrace, ein rhwydwaith staff ag anabledd

 

Dyma beth sydd gan rai aelodau anabl o’r staff i’w ddweud am eu profiad o weithio yma:

  • “Mae parodrwydd y Cynulliad i ymgysylltu ag Embrace yn gwneud imi deimlo ei fod yn gwerthfawrogi fy marn a’m profiadau fel aelod anabl o’r staff. Rwy’n falch o fod yn aelod o’r rhwydwaith ac yn teimlo fy mod yn helpu i wneud gwahaniaeth go iawn i’r sefydliad a’i staff.”
  • “Mae fy anabledd yn effeithio’n enfawr ar fy symudedd ac mae’n effeithio ar fy mywyd gwaith. Mae’r gefnogaeth mae’r Ymgynghorydd Iechyd a Diogelwch wedi ei rhoi i mi wedi bod yn rhagorol. Maen nhw wedi darparu cyfarpar ar fy nghyfer i wneud fy niwrnod gwaith yn llai poenus ac felly yn fwy cynhyrchiol. Mae’r gefnogaeth barhaus a gaf ganddynt yn fy helpu i gadw i weithio ac rwy’n eithriadol o ddiolchgar iddyn nhw.”
  • “Mae’r Nyrs Iechyd Galwedigaethol wedi fy nghefnogi i; cefais fy nghwnsela a therapi rheoli straen drwy’r Rhaglen Cymorth i Weithwyr. Mae’r dosbarthiadau Techneg Alexander hefyd wedi bod yn fuddiol dros ben. Heb hyn oll, rwy’n amau a fyddwn yn dal i fod yn gweithio’n amser llawn, os o gwbl.”

Ar gyfer ymwelwyr, rydym yn sicrhau bod ein hadeiladau’n hygyrch ac yn groesawgar i bobl anabl.

  • Mae gennym lifftiau ym mhob rhan o’n hadeiladau
  • Mae parcio hygyrch ar gael;
  • Mae systemau dolen ym mhob rhan o’n hadeiladau;
  • Mae pob un o’n staff Cyswllt Cyntaf a’n staff Diogelwch wedi cael hyfforddiant ynghylch cefnogi ymwelwyr anabl;
  • Mae gennym Hyrwyddwyr Awtistiaeth drwy’r sefydliad i groesawu pobl ag awtistiaeth;
  • Mae rhai o’n staff wedi cael hyfforddiant ymwybyddiaeth o fod yn fyddar ac Iaith Arwyddion Prydain;
  • Mae gennym amrywiaeth o gyfleusterau toiled, gan gynnwys cyfleuster Lleoedd Newid, gyda gwely a theclyn codi.

Yn ogystal, mae gennym dimau allgymorth, addysg ac ymgysylltu ag ieuenctid sy’n cyfarfod â phobl anabl ledled Cymru i’w hysbysu am waith y Cynulliad ac i wrando ar eu barn ar y materion sy’n bwysig iddynt.

Llun o aelodau’r Grŵp Cymysg, sef grŵp o bobl ifanc ag anableddau o Abertawe
Llun o aelodau’r Grŵp Cymysg, sef grŵp o bobl ifanc ag anableddau o Abertawe

Cawsom gydnabyddiaeth gan sefydliadau allanol sy’n dathlu ein hygyrchedd.

  • Mae Action on Hearing Loss wedi dyfarnu Marc Siartr Yn Uwch na Geiriau i ni oherwydd ein hymrwymiad i gefnogi staff ac ymwelwyr sy’n fyddar neu sydd â nam ar y clyw. Rydym hefyd wedi ennill gwobr arian yng ngwobrau Rhagoriaeth Action on Hearing Loss Cymru.

 

Llun o bobl yn dathlu cyflwyno Gwobr Mynediad Cymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth i’r Cynulliad
Llun o bobl yn dathlu cyflwyno Gwobr Mynediad Cymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth i’r Cynulliad
Logo Gwobr Mynediad Cymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth
Logo Gwobr Mynediad Cymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth

Y Cynulliad yn disgleirio yn Sparkle

Kelly Harris, Swyddog Ymgysylltu â Phobl Ifanc

Dydd Sadwrn 7 Tachwedd, gyda Craig Stephenson, Cyfarwyddwr y Cynulliad a Chadeirydd ein rhwydwaith staff LGBT, es i a stondin i Swansea Sparkle i siarad â’r cyhoedd am waith y Cynulliad a sut y gallent gymryd rhan.

Cafodd Swansea Sparkle ei drefnu gan Tawe Butterflies a Heddlu De Cymru, ac roedd yn gyfle i bobl ddod at ei gilydd a dathlu cydraddoldeb ac amrywiaeth. Y nod oedd chwalu’r rhwystrau rhwng y cyhoedd a’r gymuned Drawsrywiol drwy ddod â sefydliadau o bob rhan o Gymru a’r DU at ei gilydd i arddangos y cymorth, y wybodaeth a’r cyngor sydd ar gael i’r gymuned.

Roedd yn ddiwrnod diddorol iawn a chawsom lawer yn dangos diddordeb yn y Cynulliad. Roedd llawer o bobl nad oeddynt yn ymwybodol bod ganddynt bum Aelod Cynulliad sy’n gyfrifol am eu cynrychioli yn y Cynulliad, felly roedd yn gyfle perffaith i’w cyflwyno i Archwilio’r Cynulliad: Eich Aelodau Cynulliad Chi a sgwrsio am pa faterion y gallent eu hwynebu yn eu cymunedau. Daeth dau o Aelodau’r Cynulliad at y stondin i ddweud helo a chael tynnu eu lluniau gyda ni – Julie James (Etholaeth Gorllewin Abertawe) a Peter Black (Rhanbarth Gorllewin De Cymru) – roedd yn wych cael eu cefnogaeth yn y digwyddiad.

Sparkle 2015: Staff y Cynulliad gyda’r Aelod Cynulliad Julie James
Sparkle 2015: Staff y Cynulliad gyda’r Aelod Cynulliad Julie James
Sparkle 2015: Staff y Cynulliad gyda’r Aelod Cynulliad Peter Black
Sparkle 2015: Staff y Cynulliad gyda’r Aelod Cynulliad Peter Black

Roeddwn yn ddigon ffodus i gael y cyfle i siarad â pherson ifanc sy’n trawsnewid ar hyn o bryd. Roeddwn i’n teimlo’n freintiedig iawn fod yr unigolyn yma wedi rhannu ei stori gyda mi, ac yr oedd yn ddiddorol clywed am y profiadau y mae wedi’u cael – yr hapus a’r trist. Cymerwyd camau mawr i sicrhau bod lleisiau’r gymuned Drawsrywiol yn cael eu clywed, ond mae’n amlwg iawn bod llawer o waith i’w wneud o hyd. Fe wnes yr ymdrech i sicrhau bod y person ifanc yn gwybod am yr holl ffyrdd gwahanol y gall gymryd rhan yng ngwaith y Cynulliad, hyd yn oed pa mor galed mae’r Cynulliad yn gweithio i sicrhau bod ein gweithlu yn amrywiol ac yn hollol gynrychioliadol o gymunedau Cymru. Roedd yn wych cael adborth ar beth arall roedd yn credu y gallai’r Cynulliad weithio arno, a chaiff hyn ei gyfleu i’n Tîm Cydraddoldeb rhagorol.

Esboniais hefyd pwy yw Comisiynydd Plant Cymru a beth yw ei swydd, felly os bydd yn teimlo bod angen help rhywun yn y dyfodol, mae rhywun arall y gall gysylltu â hi. Mae’n bwysig i holl bobl ifanc Cymru wybod am y Comisiynydd Plant.

Ar y cyfan, roedd yn ddiwrnod ardderchog – wedi’i drefnu’n dda ac yn groesawgar iawn! Alla i ddim aros i fynd yn ôl y flwyddyn nesaf!

Ymwelwyr â digwyddiad Sparkle yn gwneud addewid #DimAnwybyddu Stonewall
Ymwelwyr â digwyddiad Sparkle yn gwneud addewid #DimAnwybyddu Stonewall

Menywod duon a lleiafrifoedd ethnig arloesol: Menywod duon a lleiafrifoedd ethnig sydd wedi gosod llwybr i eraill ei ddilyn

Black History Month Wales logoMis Hydref yw Mis Hanes Pobl Dduon, yr adeg o’r flwyddyn pan fydd diwylliant, hanes a llwyddiannau cymunedau Pobl Dduon a Lleiafrifoedd Ethnig (BME) yn cael eu cydnabod a’u dathlu.

Mae pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig wedi gallu cyfrannu at ddatblygiad cymdeithas, technoleg, yr economi a diwylliant ym Mhrydain drwy gyfraniad y dynion a’r menywod dewr hynny a osododd lwybr iddynt. Nhw arweiniodd y ffordd i bobl dduon a lleiafrifoedd ethnig eraill, fel modelau rôl ac esiamplau o’r hyn yr oedd modd ei gyflawni.

Mae Cymdeithas Hanes Pobl Dduon Cymru, mewn partneriaeth â’r Ganolfan Gymunedol Affricanaidd, Canolfan Mileniwm Cymru, Unsain Cymru, Radio Cardiff a’r Prince’s Trust Cymru, wedi cyhoeddi mai’r thema eleni fydd ‘Menywod Duon Dylanwadol, Ddoe a Heddiw’. Yn unol â’r thema honno, dyma 12 o fenywod duon a lleiafrifoedd ethnig arloesol sydd wedi gosod y llwybr i eraill ei ddilyn:

1.  Mary Prince: Y fenyw ddu gyntaf i ysgrifennu a chyhoeddi  hunangofiant ‘The History of Mary Prince: A West Indian Slave’,  hanes am erchyllterau bywyd o gaethwasiaeth ar y planhigfeydd,  a gyhoeddwyd ym Mhrydain oddeutu 1831. Mary Prince oedd y fenyw gyntaf hefyd i  gyflwyno deiseb gwrth-gaethwasiaeth i’r Senedd.

2.  Una Marson: Darlledwraig fenywaidd ddu gyntaf y BBC o 1939  i 1946.

3.  Elisabeth Welch: Un o’r bobl dduon gyntaf i gael chyfres radio ei hun ar y BBC  ym 1935, ‘Soft  Lights and Sweet Music’, a’i gwnaeth hi’n  enw cyfarwydd iawn ym Mhrydain.

4.  Sislin Fay Allen: WPC du cyntaf Prydain, gan ymuno â’r Heddlu Metropolitan  ym 1968.

5.  Lilian Bader: Un o’r menywod cyntaf yn yr Awyrlu Brenhinol i gymhwyso i  atgyweirio offerynnau, ar ôl ymuno â’r Awyrlu Ategol i Fenywod. Ewch i  flog  y Weinyddiaeth Amddiffyn i gael gwybod mwy am bobl dduon a lleiafrifoedd ethnig yn y lluoedd arfog.

6.  Moira Stuart, OBE: Y ddarllenwraig newyddion gyntaf o dras Affricanaidd-Caribïaidd  ar deledu Prydain.

7. Diane Abbott, AS: Yr Aelod Seneddol benywaidd du cyntaf adeg ei hethol i Dŷ’r Cyffredin yn etholiad cyffredinol 1987.

8.  Betty Campbell: Yn yr 1970au, hi oedd pennaeth du cyntaf y wlad, a hynny yn Ysgol Gynradd Mount Stuart yn Nhre-biwt, Caerdydd.

9/10.  Y Farwnes Valerie Amos: Y gweinidog cabinet benywaidd du gyntaf a’r   fenyw ddu gyntaf     i fod yn arglwyddes, ochr yn ochr â’r Farwnes Patricia Scotland.

11. Y Fonesig Jocelyn Barrow: Y fenyw ddu gyntaf i fod yn un o Lywodraethwyr y BBC.

12. Claudia Jones:  Sylfaenydd papur newydd wythnosol du cyntaf Prydain “The   West Indian Gazette”, oedd hefyd yn cael eu hadnabod fel mam Carnifal Notting Hill .

‘Arwyr o gefndir Pobl Dduon a Lleiafrifoedd Ethnig

Mae mis Hydref yn Fis Hanes Pobl Dduon.

Er mwyn dathlu’r Mis hwn, hoffai Rhwydwaith Staff Pobl Dduon a Lleiafrifoedd Ethnig y Cynulliad sôn am y bobl sydd wedi bod yn fodelau rôl iddynt ac sydd wedi’u hysbrydoli – eu ‘Harwyr o gefndir Pobl Dduon a Lleiafrifoedd Ethnig’.

Muhammad Ali  – Cyn-focsiwr proffesiynol

Delwedd o Muhammad Ali
Y ddelwedd yn eiddo cyhoeddus gan Ira Rosenberg

“Yn Fwslim crefyddol, na roddodd gorau iddi er gwaethaf yr heriau a wynebodd fel dyn du, yn arbennig yn y 1960au a’r 1970au.   Mae wedi annog pobl i barchu a deall ei gilydd yn well ac ymdrechu i fod y gorau y gallant fod.  Mae’n cynrychioli sut y gellir defnyddio chwaraeon i newid gwerthoedd cymdeithasol.”

Stephen K. Amos – Digrifwr

Delwedd o Stephen K Amos
Tynnwyd y ddelwedd yng Ngŵyl Ymylol Caeredin 2005. Rhyddhawyd yn eiddo cyhoeddus

“Am ei waith yn codi proffil cyfunrhywiaeth yn ei berfformiadau, fel y sioe unigol ddadlennol ‘All of Me’ yng Ngŵyl Fringe Caeredin, lle gwnaeth gydnabod yn gyhoeddus ei gyfunrhywiaeth ei hun iw gynulleidfa am y tro cyntaf.”

Tracy Chapman – Canwr a chyfansoddwr

Delwedd o Tracy Chapma
Delwedd gan Hans Hillewaert dan drwydded Creative Commons

“Mae geiriau ei chaneuon, fel ‘Talkin’ ‘bout a revolution’ a ‘Fast Car’ yn amlygu’r pwysigrwydd o siarad yn erbyn anghyfiawnder a chodi ymwybyddiaeth o dlodi.”

Nelson Mandela – Cyn-arlywydd De Affrica

Delwedd o Nelson Mandela
Delwedd yn y parth cyhoeddus ar connect.123.com, o erthygl gan Katie Arango

“Arweinydd diymhongar a oedd yn frwd dros heddwch ac a faddeuodd y bobl a’i neilltuodd am 27 o flynyddoedd, ac a arweiniodd pobl De Affrica mewn ysbryd o faddeuant a chytgord. Pe gallwn fod hanner y dyn yr oedd, mi fyddwn i’n hapus iawn.”

Pranab Mukherjee – Arlywydd India

Delwedd o Pranab Mukherjee
Delwedd yn y parth cyhoeddus

“Oherwydd y gwaith mae wedi’i wneud â phobl dlawd. Mae’n llysgennad ar gyfer pobl dlawd.”

Barack Obama – Arlywydd Unol Daleithiau America

Delwedd o Barack Obama
Trwyddedwyd o dan Drwydded Creative Commons Attribution 3.0 Unported

“Fel rhywun o gefndir Pobl Dduon a Lleiafrifoedd Ethnig sydd, heb amheuaeth, yn un o’r swyddi mwyaf pwerus yn y byd, mae’n amlwg fod pethau’n newid ac mae hynny’n rhoi gobaith ichi. Mae’n eicon anhygoel oherwydd bob amser rydych chi’n ei weld, rydych chi’n gweld dyn du sy’n mynegi ei hun yn dda, hyd yn oed pan gaiff ei bryfocio.”

Michelle Obama – Prif Foneddiges America, cyfreithwraig, awdur, gweithiwr elusennol

 Deledd o Michelle_Obama_2013_official_portrait[1]
Y ddelwedd yn eiddo cyhoeddus. Llun swyddogol y Tŷ Gwyn gan Chuck Kennedy
“Mae’n fenyw anhygoel ac yn berson rhagorol am sawl rheswm, gan gynnwys ei hymrwymiad i hyrwyddo bwyta’n iach a hawl menywod i addysg.”

Oprah Winfrey – cyflwynydd sioeau siarad, actores, cynhyrchydd a dyngarwr sy’n chwarae rhan arwyddocaol yn y cyfryngau

Delwedd o Oprah Winfrey
Trwyddedwyd o dan Drwydded Creative Commons Atribution Share-Alike 3.0. Trwydded Creative Commons Attribution Share-Alike 3.0 < br / > Mae cyfrannau na gyfrannwyd gan ymwelwyr yn Hawlfraint 2015 Tangient LLC

“Mae hi’n enghraifft o lwyddiant yn wyneb amrywiaeth. Nid yn unig y mae’n stori go iawn o dlodi i gyfoeth, ond ar ôl gweithio’n galed yn ei maes, mae wedi defnyddio ei sefyllfa i wneud gwahaniaeth, gan ddefnyddio ei dylanwad a’i llwyddiant i ysbrydoli, addysgu a galluogi pobl o bob cefndir, ym mhob cwr o’r byd.”

Stevie Wonder – Cerddor

Trwyddedwyd o dan Drwydded Brasil Priodoliad Cyffredin Creadigol 3.0
Trwyddedwyd o dan Drwydded Brasil Priodoliad Cyffredin Creadigol 3.0

“Plentyn rhyfeddol. Yn ddawnus yn naturiol a chyda llawer o dalent, dysgodd ei hun i ddechrau chwarae offerynnau’n 4 oed. Llwyddodd i oresgyn anawsterau a gofid a bod y gorau yn ei faes, gan barhau i fod yn berthnasol ac yn llwyddiannus drwy gydol ei oes.”

Malala Yousafzai – Gweithredydd o Bacistan ar gyfer addysg i fenywod a’r person ieuengaf erioed i ennill y Wobr Nobel

Delwedd o Malala Yousafzai
Delwedd gan Russell Watkins/Adran Datblygu Rhyngwladol. Ar gael o dan delerau Hawlfraint y Goron/Trwydded Llywodraeth Agored/Creative Commons

“Mae hi’n fodel rôl fodern a chryf. Mae ei dewrder a’i phenderfyniad i greu ac i sicrhau newid i fenywod ym mhob cwr o’r byd ar ôl ei phrofiad trawmatig, yn wir, yn arbennig iawn. Mae’n ferch hynod o ddewr, sydd â stori anhygoel i’w hadrodd. Yn ddim ond 18 mlwydd oed, mae eisoes wedi cyflawni llawer iawn, a bydd ei hymdrechion yn sicrhau y bydd hi’n cyflawni llawer iawn rhagor.”

Leymah Gbowee – Arweinydd hawliau menywod a gwrth-ryfel Liberia, enillydd y Wobr Heddwch Nobel ar y cyd yn 2011

Delwedd o Leymah Gbowee
Trwyddedwyd o dan Drwydded Creative Commons Attribution 3.0 Unported

Os hoffech wybod mwy am ein rhwydwaith staff BME, cysylltwch â Raz Roap, Cadeirydd y rhwydwaith staff BME.

Ydych chi’n bwriadu ymweld â’r Cynulliad? Edrychwch ar ein gwefan neu cysylltwch â ni dros y ffôn ar 0300 200 6565, neu anfonwch neges e-bost at cysylltu@cynulliad.cymru.

I gael rhagor o fanylion am y digwyddiadau a gynhelir ledled Cymru, ewch i wefan Mis Hanes Pobl Dduon Cymru.

Black History Month Wales logo  National Assembly for Wales Black Minority Ethnic Staff Network Logo

Mae Hydref yn fis Hanes Pobl Dduon

bhm

Dathlwyd Mis Hanes Pobl Dduon gyntaf yn y Deyrnas Unedig ym 1987, ac mae’n parhau i gael ei nodi’n flynyddol bob mis Hydref.

Yn ystod y mis hwn bydd diwylliant, hanes a chyrhaeddiadau cymunedau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig yn cael eu dathlu.

Cynhelir digwyddiadau drwy gydol mis Hydref, yn genedlaethol, i gydnabod a dathlu cyrhaeddiadau pobl o gefndiroedd Du a Lleiafrifoedd Ethnig (BME) a’r cyfraniadau a wneir ganddynt i ddatblygiad y gymdeithas, technoleg, yr economi a chelf a diwylliant ym Mhrydain. I gael rhagor o fanylion am y digwyddiadau a gynhelir ledled Cymru, ewch i wefan Mis Hanes Pobl Dduon Cymru.

I ddathlu Mis Hanes Pobl Dduon mae’r Rhwydwaith staff Pobl Dduon a Lleiafrifoedd Ethnig wedi trefnu amrywiaeth o weithgareddau a gaiff eu cynnal drwy gydol mis Hydref i godi ymwybyddiaeth ac i feithrin dealltwriaeth o hanes Pobl Dduon.

Ym mis Hydref, bydd ein Rhwydwaith Staff Pobl Dduon a Lleiafrifoedd Ethnig yn hyrwyddo ‘ Arwyr BME’ , sef y bobl a fu’ n fodelau rôl ac yn ysbrydoliaeth iddynt. Cadwch lygad ar ein blog drwy gydol mis Hydref i ddarganfod mwy.

Hefyd, bydd gennym stondin yn nigwyddiad arddangos Mis Hanes Pobl Dduon Cymru yng Nghanolfan Mileniwm Cymru ddydd Sadwrn 24 Hydref, sef un o uchafbwyntiau Mis Hanes Pobl Dduon. Dewch draw i’ r stondin; byddwn yn falch iawn o’ch gweld chi. Bydd y digwyddiad undydd am ddim hwn yn dathlu diwylliant gwasgariad Affricanaidd a’ i gyfraniadau i Gymru a thu hwnt gyda cherddoriaeth, canu, dawnsio, bwyd da a chwmni gwych.

BHM1Os hoffech wybod mwy am ein rhwydwaith staff BME, cysylltwch â Raz Roap, Cadeirydd y rhwydwaith staff BME.

 

Diwrnod Dathlu Deurywioldeb

Bi visibility day logo

Erthygl gan Emma Wilson, lleoliad profiad gwaith

Mae diwrnod dathlu deurywioldeb yn ddyddiad pwysig o ran hyrwyddo cydraddoldeb. Sefydlwyd y diwrnod ym 1999 gan yr ymgyrchwyr o’r Unol Daleithiau BiNET er mwyn codi ymwybyddiaeth o ddeurywioldeb.

Nod y diwrnod yw addysgu’r cyhoedd ar faterion sydd o bwys i bobl ddeurywiol, dileu rhagdybiaethau negyddol a rhoi terfyn ar wahaniaethu sy’n deillio o’r tu mewn i’r gymuned lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol a’r tu allan iddi.

Yn ôl erthygl ddiweddar gan YouGov llai na hanner y bobl ifanc (18-24) a holwyd sy’n nodi eu bod yn 100% heterorywiol, gyda nifer fawr yn nodi eu bod ar y sbectrwm deurywiol.

Ceir effaith negyddol ar les cymdeithasol a meddyliol pobl ddeurywiol trwy wthio deurywioldeb i gyrion cymdeithas. Dangosodd arolwg a gynhaliwyd yn 2012 bod 5% o ddynion deurywiol wedi ceisio cyflawni hunanladdiad mewn cyfnod o flwyddyn o’i gymharu â 0.4% o ddynion yn gyffredinol. Dyma pam mae diwrnodau fel y rhain yn eithriadol bwysig.

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn falch iawn o fod wedi cael ei restru’n bedwerydd ym Mynegai Cydraddoldeb yn y Gweithle Stonewall a’i enwi’r Cyflogwr Gorau yn y Sector Cyhoeddus yng Nghymru. Gwnaethom ofyn i Mia Rees, arweinydd deurywioldeb ein rhwydwaith staff lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol beth mae bod yn ddeurywiol yn ei olygu iddi hi:

“Cwestiynau cyson. Os byddwch yn dweud wrth bobl eich bod yn hoyw, naw gwaith o bob deg, bydd pobl yn dweud: ‘O, iawn, diolch am roi gwybod imi,’ a dyna ddiwedd y sgwrs. Ond os ydych yn dweud wrth bobl eich bod yn ddeurywiol, fe glywch nifer o ddatganiadau anwybodus fel: ‘Hoyw wyt ti, ond nad wyt ti’n gwybod hynny eto’, neu gwestiynau personol busneslyd am eich bywyd rhywiol: ‘Ydych chi wedi cysgu gyda mwy o ddynion neu o fenywod?’

Gwelir pobl ddeurywiol fel jôc gan y gymuned hoyw a chan bobl heterorywiol, sy’n fy mrifo, ac felly pan fydd pobl yn cymryd yn ganiataol fy mod yn hoyw neu’n heterorywiol anaml iawn y byddaf yn teimlo’n gyfforddus yn eu cywiro.

Yn ddiweddar, daeth y berthynas rhyngof fi a ‘nghariad (fenywaidd) i ben, a’r sylw cyntaf a wnaeth rhywun oedd: ‘Ai dyn fydd dy gariad nesaf?’ – Beth allwn i’i ddweud?!

Rwy’n credu bod pobl yn gweld deurywioldeb fel cyfnod o bontio neu gyfnod arbrofol ym mywyd person, ac i lawer mae hynny’n wir, ond nid i bawb, ac mae’n bwysig cydnabod hynny.

I gael gwybod mwy am ein rhwydwaith staff lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol, cysylltwch â Craig Stephenson.

I gael rhagor o wybodaeth am sut y gall cyflogwyr gefnogi aelodau staff deurywiol yn well, darllenwch ganllaw Stonewall Bisexual people in the Workplace: Practical Advice for Employers

Mae rhagor o gefnogaeth a gwybodaeth ar gyfer pobl ddeurywiol ar gael oddi wrth BiCymru neu Stonewall Cymru.

Stonewall LGBT Assembly staff network logoStonewall top 100 employers 2015 logo

Wythnos Cydraddoldeb ac Amrywiaeth – Mae’r Magna Carta yn 800 oed!

Ddydd Llun 15 Mehefin, byddwn yn dathlu 800 mlynedd ers llofnodi’r Magna Carta, dogfen sy’n sail rannol, ym marn llawer o bobl, i’r hawliau, y gynrychiolaeth, y rhyddid a’r ddemocratiaeth yr ydym ni’n eu cymryd yn ganiataol heddiw.

Gellir dadlau bod y Magna Carta yn ddogfen bwysig, gynnar ar hawliau dynol, a oedd yn greiddiol i’r broses o ddatblygu hawliau fel yr ydym ni’n eu deall nhw heddiw, fel yr hawl i gyfiawnder a gwrandawiad teg.

Er mwyn edrych ymhellach ar beth yw ystyr hawliau dynol yng nghyd-destun bywyd bob dydd, sut y maent yn effeithio ar bobl a pham eu bod mor bwysig, beth am fynd am dro ar hyd Stryd Urddas, sef canllaw rhyngweithiol syml ar y Ddeddf Hawliau Dynol gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol?

Mae rhagor o wybodaeth am ddathlu 800 mlynedd ers llofnodi’r Magna Carta ar gael ar y wefan swyddogol.

Wythnos Cydraddoldeb ac Amrywiaeth – hyrwyddo cydraddoldeb trawsryweddol

Er mwyn codi ymwybyddiaeth, mae angen i ni ystyried pa beth a olygwn wrth hunaniaeth o ran rhywedd a chydraddoldeb trawsrywedd, a sut y gallwn gefnogi pobl drawsryweddol yn well.

Ystyr hunaniaeth o ran rhywedd yw a ydych yn ystyried eich bod yn fachgen neu’n ferch, yn ddyn neu’n fenyw. Mae a wnelo hyn â’r nodweddion y mae ein diwylliant yn disgwyl iddynt berthyn i’r naill rywedd neu’r llall. Fodd bynnag, nid yw pawb yn uniaethu â’r disgrifiad o’r naill ryw neu’r llall. Efallai eu bod yn uniaethu â’r rhyw sy’n wahanol i’r hyn a bennwyd ar eu cyfer adeg eu geni, neu efallai eu bod yn uniaethu â rhannau o’r naill ryw a’r llall.

Yn aml, defnyddir termau deuaidd, du a gwyn i ddisgrifio rolau rhywedd – gwryw a benyw, dyn a menyw, gwrywaidd a benywaidd – ond nid yw gwneud hyn yn cydnabod ehangder yr amrywiaeth yn hunaniaeth pobl o ran rhywedd a mynegi rhywedd. Mae llawer o bobl yn defnyddio’r gair Traws fel term cyffredinol ar gyfer yr amrywiaeth hon.

Defnyddir trawsryweddol (a dalfyrrir yn aml yn ‘traws’ neu ‘traws*’) fel term cynhwysol i ddisgrifio pobl sy’n teimlo nad yw’r rhyw a bennwyd ar eu cyfer adeg eu geni yn eu disgrifio neu fod y disgrifiad yn un anghyflawn. Mae’r term hwn yn cynnwys pobl sydd:

  • yn drawsrywiol (sef rhai sy’n gweld eu bod yn perthyn i’r rhyw arall o’r ddeuryw, yn hytrach na’r rhyw a bennwyd ar eu cyfer adeg eu geni)
  • yn rhyngrywiol (sef pobl y mae eu cyrff yn wahanol i’r diffiniad o nodweddion corff gwrywaidd neu gorff benywaidd)
  • y tu allan i’r ffurfiau deuaidd benywaidd/gwrywaidd.
  • yn mynegi eu rhywedd yn wahanol i’r hyn sy’n gysylltiedig fel arfer â’r rhyw a bennwyd ar eu cyfer adeg eu geni.

Mae’n werth cofio bod y derminoleg yn datblygu o hyd, felly mae’n bosibl y bydd diffiniadau yn newid.

Gall y bydd rhai pobl drawsrywiol yn dewis newid eu cyrff drwy hormonau, llawdriniaeth neu gyfuniad o’r ddau. Yr enw am hyn yw ailbennu rhywedd neu drawsnewid, ac mae fel arfer yn broses gymhleth sy’n digwydd dros gyfnod hir. Nid yw bod yn drawsrywiol yn dibynnu ar weithdrefnau meddygol, a dylid cydnabod hunaniaeth unigolyn o ran rhywedd ni waeth a ydyw wedi ailbennu rhywedd o dan y gyfraith ai peidio.

Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol wedi gwneud y fideos canlynol o bobl drawsryweddol yn rhannu eu profiadau: Mae Jenny-Anne Bishop yn egluro am ei bywyd fel menyw drawsrywiol yng Nghymru ac yn sôn am y profiadau gafodd hi o ganlyniad i’w thrawsnewid, ac mae Stephen Whittle siarad am ei drawsnewid a’i brofiadau ef (Saesneg yn unig).

Rhagor o wybodaeth:

  • Gofynnodd llinyn gair rhydd BBC Three, Free Speech, i grŵp o bobl drawsryweddol ymateb i gwestiynau sydd gyda’r mwyaf cyffredin, y mwyaf rhyfedd a’r mwyaf anghwrtais y mae pobl yn gofyn iddynt: Trans People Respond To The Most Annoying Questions They Get Asked (Saesneg yn unig)
  • Mae Buzzfeed hefyd wedi creu fideo o’r enw ‘Why Pronouns Matter for Trans people’ (Saesneg yn unig)
  • Mae GLAAD wedi cynhyrchu Geiriau o gyngor i Gyfeillion Pobl Drawsrywiol (Saesneg yn unig). Pan ddewch yn gyfaill i bobl drawsryweddol, bydd eich gweithredoedd yn helpu i newid y diwylliant, gan wneud y gymdeithas yn lle gwell a mwy diogel i bobl drawsrywiol – ac i bawb (yn drawsrywiol ai peidio) nad ydynt yn cydymffurfio â disgwyliadau o ran rhywedd.
  • Mae Stonewall hefyd yn cynrychioli pobl drawsryweddol bellach.

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cefnogi cydraddoldeb trawsryweddol yn llwyr. Mae hunaniaeth o ran rhywedd yn rhan o’n Cynllun Cydraddoldeb a’n polisïau yn y gweithle, megis Urddas yn y Gwaith. Nid ydym yn goddef trawsffobia, a ddiffinnir fel aflonyddu ar bobl drawsrywiol a gwahaniaethu yn eu herbyn.

Rydym wedi gweithio gydag eiriolwyr trawsryweddol i ddatblygu Polisi Ailbennu Rhywedd gyda’r bwriad o gefnogi staff sydd wedi bod drwy broses ailbennu rhywedd neu sy’n bwriadu ymgymryd â’r broses honno.

Mae OUT-NAW, sef ein rhwydwaith cefnogi staff LGBT, yn agored i staff LGBT y Cynulliad. Mae’n cefnogi staff LGBT ac yn hyrwyddo cydraddoldeb LGBT trwy gymryd rhan yn Pride,  Mis Hanes LGBT a Diwrnod Rhyngwladol yn Erbyn Homoffobia, Biffobia a Thrawsffobia.