Category: Ar grwydr

Drysau Agored CADW 2014

Pierhead

Ar 20 Medi 2014 bydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn agor ei ddrysau i’r cyhoedd fel rhan o ddigwyddiad Drysau Agored blynyddol CADW. Bydd cannoedd o atyniadau ledled Cymru yn cynnig mynediad, gweithgareddau neu ddigwyddiadau am ddim yn ystod mis Medi, gyda rhai adeiladau unigryw hyd yn oed yn caniatáu mynediad i’r cyhoedd am y tro cyntaf.

Bydd ymwelwyr ag ystâd y Cynulliad yn mynd ar daith drwy amser, yn darganfod hanes Bae Caerdydd a Chynulliad Cenedlaethol Cymru, gyda mynediad i rai ardaloedd nad ydynt fel arfer ar agor i’r cyhoedd.

Bydd y daith yn cynnwys y tri adeilad ar ystâd y Cynulliad:

  • Y Senedd, adeilad seneddol modern, un o’r adeiladau mwyaf ecogyfeillgar a chynaliadwy yng Nghymru a chartref siambr drafod y Cynulliad;
  • Y Pierhead, adeilad Fictoraidd hwyr hanesyddol sydd bellach yn amgueddfa ac arddangosfa, a;
  • Tŷ Hywel, cartref gwreiddiol siambr drafod y Cynulliad ynghyd â swyddfeydd Aelodau’r Cynulliad a staff.

Dyddiad: 20 Medi, 14:00

Mae’n hanfodol archebu gan mai dim ond i nifer gyfyngedig o bobl y gallwn gynnig y daith unigryw hon y tu ôl i’r llenni. Ffoniwch 0845 0105500 neu 01492 523 200 i archebu eich lle.

Cyfeiriad: Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Bae Caerdydd, Caerdydd, CF99 1NA
Gwybodaeth am deithio: Mae’r bws plygu yn gadael Gorsaf Heol y Frenhines a Gorsaf Caerdydd Canolog bob deng munud. Mae gwasanaethau’r trên bob 12 munud o Orsaf Caerdydd Canolog i Orsaf Bae Caerdydd. Mae’r orsaf ychydig o funudau ar droed o’r Senedd a’r Pierhead. Gadewch yr M4 yng nghyffordd 33, dilynwch yr A4232 i Fae Caerdydd a dilynwch yr arwyddion ar gyfer Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Ar feic/ar droed, mae Taith yr Afon Taf o Aberhonddu drwy ganol dinas Caerdydd i Fae Caerdydd yn dod i ben yn y basn y tu allan i’r Senedd.

Os na allwch ddod ar 20 Medi, gallwch ymweld â’r Senedd a’r Pierhead o hyd – maent ar agor i’r cyhoedd saith diwrnod yr wythnos. Gallwch gael paned o goffi yn Oriel y Senedd ar y lefel uwch, a mynd o’r Neuadd ar y lefel ganol i’r orielau cyhoeddus. Ac nid dim ond ymwelwyr sy’n dod i weld y Senedd a’i mwynhau – mae gennym hefyd berfformwyr, cantorion, arddangosfeydd a phob math o weithgareddau’n rheolaidd.

Mae Drysau Agored CADW yn ddathliad blynyddol o bensaernïaeth a threftadaeth Cymru ac mae’n rhan o’r Diwrnodau Treftadaeth Ewropeaidd, a gynhelir ym 50 o wledydd Ewrop bob blwyddyn ym mis Medi.

Am ragor o wybodaeth, gan gynnwys atyniadau eraill ledled Cymru sy’n cymryd rhan, ewch i wefan CADW:
http://cadw.wales.gov.uk/opendoors/?skip=1&lang=cy

Style: "DEP 18:03:09 04"

Y Senedd: Sylwadau gan ymwelwyr

Image from Flickr by astronomy_blog. Licensed under the Creative Commons.
Image from Flickr by astronomy_blog. Licensed under the Creative Commons.

 

Yn ogystal â bod yn ganolbwynt datganoli yng Nghymru, mae’r Senedd hefyd ar agor drwy gydol y flwyddyn fel atyniad i ymwelwyr. Gallwch fynd ar daith o amgylch yr adeilad a dysgu am wleidyddiaeth yng Nghymru gydag un o’r tywyswyr, neu gallwch fynd i’r Cyfarfod Llawn neu i gyfarfod pwyllgor. Hefyd mae digwyddiadau ac arddangosfeydd yn cael eu cynnal drwy’r flwyddyn, felly daw digon o ymwelwyr yma am bob math o resymau.

Yn ddiweddar, gorffennwyd llenwi ein llyfr ymwelwyr, a manteisiwyd ar y cyfle i ddarllen drwy rai o’r negeseuon a nodwyd gan bobl. Mae hon yn ffordd dda o ddeall beth mae pobl wir yn ei fwynhau am eu hymweliadau â’r Senedd.

Cawsom lawer o sylwadau cadarnhaol:

“Rwyf wrth fy modd â’r teimlad agored sydd yn yr adeilad hwn!” – Andrea, Iowa, UDA.

“Staff cyfeillgar dros ben”  – Pedr, Caerdydd.

“Gwell nag yw ar y teledu!” – Carole, Gogledd Cymru.

“Staff cyfeillgar iawn a llawn gwybodaeth.” – Claire, Stoke-on-Trent.

“Democratiaeth am byth!” – Rob, Ynys Wyth.

“Gwych bod canolbwynt llywodraeth Cymru yn agored i bawb ei archwilio a dysgu amdano. ” – Leanne, Cwmbrân.

“Caru’r lle hwn, caru’r wlad hon.” Laurence, Caerfaddon.

“Adeilad hardd a chroeso cynnes gan y staff. Diolch – Simon, Farnham.

“Y Senedd orau i mi ymweld â hi.” – Sharon, Cyprus.

“Ni allwn roi mwy o ganmoliaeth!” Helmina, Ffindir.

“Mae’n gwneud i mi deimlo’n falch o fod yn Gymro.” Andrew, Pontypridd.

 

Canmolwyd y cyfleusterau yn benodol:

“Toiledau neis iawn!” – Raynor, Bangor.

 

Roedd pobl nad oeddent yn mwynhau eu hymweliadau, am amryw o resymau, hefyd:

“Gwastraff arian.  Cangen ddiangen arall o Lywodraeth.” – Sarah, Pen-y-bont ar Ogwr.

“Glanhewch y staeniau dŵr ar y gwydr. Ac ymfalchio yn eich Cynulliad. ” – Richard, Llundain.

“Boddhaol. Da, ond ychydig yn ddiflas.” Savannah, 10 oed, Caerdydd.

“Dim yn ddrwg, dim yn ddrwg o gwbl, a dweud y gwir, roedd yn iawn.” – R, Lloegr.

“Pam nad oedd unrhyw un yn y gwaith heddiw?” Mrs Stephenson, Trethdalwr, Canolbarth Cymru.

 

Cafwyd sylwadau eraill nad oedd yn ymddangos eu bod yn berthnasol, ond mae’n dal yn neis eu darllen:

“Heddwch a chariad fyddo gyda chi oll.” – Dan, pererin heddwch.

“Deuthum i weld draig fy nhad. Wedi cael diwrnod hyfryd. ” Katie, Blaenau.

Senedd

Cawsom ychydig o sylwadau am y byrllysg:

“Yn falch o weld y byrllysg yn cael gofal da.” – Jill, Sydney.

“Roedd yn wych, ond chefais i ddim cyffwrdd â’r peth aur.” Jason, Birmingham.

 

Mae’n ymddangos mai’r tywyswyr ar y daith o amgylch y Senedd, Richard a Gareth, a oedd ar y brig, gydag ugeiniau o bobl yn eu canmol:

Nid oedd y plant wedi sylweddoli y gallai gwleidyddiaeth fod yn gymaint o hwyl!  Taith wych gan Gareth!” – Dienw, Rhyl.

“Diolch am ein harwain ar yr ymweliad, Richard. **heart emoticon**” Emeline, Ffrainc.

“Mae Gareth yn neis ac yn olygus iawn.  Byddaf yn ei gofio ar hyd fy oes. ” – Pauline, Nantes.

 

Mae’r Senedd yn ein hatgoffa faint yn fwy mae ein system ddemocrataidd wedi datblygu o’i chymharu â rhai gwledydd eraill:

“Mae eich tryloywder wedi creu argraff arnaf!” – Anna, Wcráin.

“O’i chymharu â’n Senedd ni, mae’n berffaith.” – Ben, Tunisia.

Senedd

Rydym yn ymfalchio yn y Senedd, fel calon democratiaeth Cymru, ond hefyd fel adeilad sy’n agored i’r cyhoedd. Mae croeso i sefydliadau a grwpiau cymunedol gynnal digwyddiadau yn y Senedd, cyhyd ag y gallant gael nawdd gan Aelod o’r Cynulliad, sy’n golygu ein bod yn cael amrywiaeth eang o ddigwyddiadau ac arddangosfeydd yn yr adeilad.

 

Os hoffech weld beth sy’n cael ei gynnal yn y Senedd ar hyn o bryd, ewch i’n calendr i gael rhagor o wybodaeth.

Os oes gennych ddiddordeb mewn cynnal digwyddiad yn y Senedd, ewch i’n tudalen Gwybodaeth am Ddigwyddiadau.

Os na allwch gyrraedd Bae Caerdydd i ymweld â’r Cynulliad, gallwch weld yr adeilad drwy ein Rhith Daith.

Neu edrychwch ar yr hashnod #senedd a gweld delweddau ar Flickr.

 

Ffyrdd eraill o gysylltu â ni:

Y Senedd ar Facebook

Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar Facebook

@Cynulliadcymru ar Twitter

 

This slideshow requires JavaScript.

Deall ag Ymgysylltu â Chynulliad Cenedlaethol Cymru – Gweithdy Sector Busnes

Ym mis Mehefin 2014 bu i gynrychiolwyr o ddau o fusnesau yng Nghymru fynychu gweithdy yn y Senedd, Bae Caerdydd.
Roedd y diwrnod yn cynnwys y cyfle i gyfranogwyr ddysgu am y Cynulliad, sut mae’n cynrychioli pobl Cymru, sut mae’n gwneud cyfreithiau i Gymru a sut mae’n dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif.
Derbyniodd cyfranogwyr hefyd y cyfle i wylio cyfarfod y Pwyllgor Menter a Busnes yn y Senedd lle’r oeddynt yn trafod eu hymchwiliad i sgiliau Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg (STEM). Cyn cinio derbyniodd y grŵp taith o’r Senedd.
Dros ginio bu i gyfranogwyr rwydweithio gydag aelodau o’r Pwyllgor Menter a Busnes i drafod materion cyfredol yn gysylltiedig â busnes yng Nghymru.

Bp7cY9rCQAA1wdj[1]

Daeth y diwrnod i ben gyda thrafodaeth ar strwythur Gwasanaeth Pwyllgorau’r Cynulliad Cenedlaethol a sut gall cyfranogwyr fod yn rhan o waith pwyllgorau yn y dyfodol.

Cymerodd Tony Knowles, VP ar gyfer Adnoddau Dynol Byd-eang yr amser i ddweud wrthym beth oedd yn ei feddwl o’r diwrnod:

Os hoffech chi fwy o wybodaeth am weithdai tebyg yr ydym yn ei gynnig, a ffyrdd y gallwch chi gymryd rhan cysylltwch â ni ar:

timallgymorth@cymru.gov.uk neu 0845 010 5500

Y Cynulliad yn eich ardal chi

Mae gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru swyddogion yn gweithio ar draws Cymru yn darparu cyflwyniadau a gweithdai, yn cefnogi busnes y Cynulliad ac yn mynd i ddigwyddiadau’r haf.
Prosiectau a gweithdai
Mae’r tîm Allgymorth yn gweithio gydag amrywiaeth eang o sefydliadau a rhanddeiliaid ar draws Cymru yn lleol ac yn genedlaethol yn darparu cyflwyniadau a gweithdai i annog dealltwriaeth a ymgysylltiad â’r Cynulliad.
Mae pob partneriaeth a gaiff ei chreu yn unigryw i’r sefydliad ac yn seiliedig ar eu nodau ac amcanion.
Mae’r tîm Allgymorth yn sicrhau bod gan ddinasyddion ar draws Cymru ddealltwriaeth o bwy sy’n eu cynrychioli, y broses ddeddfwriaethol, sut mae’r Cynulliad yn dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif a’r cyfleoedd ymgysylltu sydd ar gael iddynt.

Dyma enghreifftiau diweddar o sefydliadau rydym wedi cydweithio â hwy:
Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru
Cyngor ar Bopeth Cymru
Sgowtiaid Cymru
Princes Trust
Plant yng Nghymru

Darparu cymorth busnes
Mae’r tîm Allgymorth yn aml yn cefnogi busnes y pwyllgorau yn ystod eu hymchwiliadau a’r broses ymgynghori, yn ymgysylltu ag aelodau o’r cyhoedd a rhanddeiliad ar draws Cymru i drafod newidiadau arfaethedig i’r gyfraith neu i bolisi a allai gael effaith uniongyrchol arnynt hwy.

Mae tystiolaeth a gesglir drwy ddulliau fel grwpiau ffocws, cyfweliadau fideo neu holiaduron, yn cael ei chyflwyno i’r pwyllgor fel tystiolaeth i’r ymgynghoriad. Mae’r dulliau hyn o ymgysylltu yn galluogi unigolion i fod yn rhan o’r broses a chymryd rhan mewn ffordd na fyddent, efallai, wedi’i wneud fel arall.

Am fwy o fanylion am waith Allgymorth yn eich ardal chi, ebost: timallgymorth@cymru.gov.uk

Ewch i’n tudalen youtbe am fideos gan gyfranogwyr sydd wedi ymgysylltu â’r tîm allgymorth:
http://www.youtube.com/user/AssemblyCynulliad/featured

CCC – Pecyn Cymorth Ymgysylltu – Cymraeg

Sgowtiaid Cymru – Bathodyn Her Democratiaeth

Ar ddydd Iau 13 Mawrth a dydd Gwener 14 Mawrth 2014, bu i Sgowtiaid Afanc a Chybiau’r Sgowtiaid yn Abergele a Llanfairpwll, Gogledd Cymru, dderbyn gweithdai gan y tîm Allgymorth fel rhan o’r Her Democratiaeth.

Bu i’r Sgowtiaid Afanc a Chybiau’r Sgowtiaid i gyd dderbyn y cyfle i ddysgu am Gynulliad Cenedlaethol Cymru a phwysigrwydd pleidleisio. Dysgon nhw pwy yw eu Haelodau Cynulliad lleol, beth mae’r Cynulliad yn gyfrifol amdano yng Nghymru a phryd a lle mae Aelodau Cynulliad yn cyfarfod i drafod a dadlau gwahanol feysydd o gyfrifoldeb.

Daeth y gweithdy i ben gyda gweithgaredd pleidleisio lle’r oedd yn rhaid i’r Sgowtiaid bleidleisio am y maes o gyfrifoldeb pwysicaf iddyn nhw gydag hyn yn cael ei dilyn gan drafodaeth ar sut mae’r Cynulliad yn sicrhau bod meysydd megis Addysg a’r Amgylchedd yng Nghymru yn cael ei ofalu amdano.

photo2

photo3

Dywedodd Deborah Tanner, Swyddog Cynllunio a Datblygu dros ardal Sgowtiaid Eryri ac Ynys Môn a rhanbarth Dinbych,

“Mae wedi bod yn dda i gael Caryl, Swyddog Allgymorth Gogledd Cymru, yn dod atom i’r sesiynau yma i weithio gydag Adran Sgowtiaid Afanc Llanfairpwll a’r adran Cybiau’r Sgowtiaid yn Abergele i ddechrau’i Bathodyn Her Democratiaeth.

Mae Caryl ar adnoddau mae hi’n ei ddefnyddio, yn dangos sut mae pwnc, sydd yn hynod o bwysig ond weithiau yn medru bod ychydig yn sych, yn gallu cael ei gyflwyno mewn ffordd sydd yn sicrhau bod pobl ifanc yn cymryd rhan. Mae hyn yn dal eu diddordeb ac yn helpu i annog pobl ifanc i gymryd rhan yn weithredol yn ein prosesau democratiaeth o oed ifanc iawn a bydd hefyd, rydym yn gobeithio, yn plannu’r hadau iddyn nhw allu cymryd rhan wrth ddod yn oedolion hefyd.

Mae’r arweinyddion erbyn hyn yn gallu defnyddio’r gweithgareddau ychwanegol sydd wedi ei ddarparu gan y Cynulliad gyda’r bobl ifanc er mwyn iddyn nhw ennill eu Bathodyn Her Democratiaeth”

Os hoffech chi weld adnoddau’r Bathodyn Her Democratiaeth, ewch i’n tudalen we ni yma.

Os hoffech dderbyn copiau caled o’r adnoddau hyn, ebostiwch ni ar: timallgymorth@cymru.gov.uk

Digartref Ynys Môn yn ymweld â’r Senedd

Mae tîm Allgymorth Gogledd Cymru wedi bod yn gweithio yn ddiweddar gyda Digartref Ynys Môn ar gyfres o weithdai i’w gyflwyno i grŵp o ddefnyddwyr gwasanaeth ar waith Cynulliad Cenedlaethol Cymru a phwysigrwydd pleidleisio. Trefnwyd y gweithdai hyn ynghyd ag ymweliad i Bae Caerdydd.

Ar ddydd Mercher 12 Mawrth 2014 bu i’r grŵp o Ddigartref Ynys Môn ymweld â Thŷ Hywel a’r Senedd ym Mae Caerdydd i ddysgu mwy am waith Cynulliad Cenedlaethol Cymru a rôl eu haelodau Cynulliad lleol.

Wrth gyrraedd Tŷ Hywel fu i’r grŵp gyfarfod gydag Aelodau o’r Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol i drafod materion tai presennol yn dilyn ymgynghoriad i’r Bil Tai (Cymru) arfaethedig.

photo1

Dywedodd Mark Isherwood AC, Aelod Cynulliad dros ranbarth Gogledd Cymru, “Rhaid inni chwalu’r rhwystrau rhwng pobl sy’n ddigartref, dan fygythiad o ddigartrefedd neu yr effeithir arnynt gan faterion digartref. Mi wnes i fwynhau cael cinio gyda’r bobl ifanc o Ddigartref Ynys Môn a ddaeth yma i ymweld â ni yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru. Dim ond drwy wrando arnynt a dysgu o’u profiadau y gallwn ddechrau mynd i’r afael ag achosion a chanlyniadau o’r problemau gyda’i gilydd wedi dod ar eu traws. Fel Aelod Cynulliad Gogledd Cymru, byddwn yn falch i ddychwelyd yr ymweliad.”

Dywedodd yr aelod etholaeth dros Gaerdydd Canolog, Jenny Rathbone AC, sydd hefyd yn aelod o’r Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol,

“Yr oeddwn yn ddiolchgar bod y bobl ifanc hyn wedi dod yr holl ffordd o Ynys Môn i siarad â ni. Yr oedd gennyf ddiddordeb i glywed am eu cynlluniau hyfforddiant presennol a chynlluniau ar gyfer y dyfodol a’u dyheadau gyrfa. Mae Digartref Ynys Môn yn gwneud gwych gwaith eu cefnogi a rhoi gobaith drwy adegau anodd iddyn nhw.”

Dilynwyd y cyfarfod gan ymweld â’r ganolfan addysg yn Nhŷ Hywel, ochr yn ochr â swyddog addysg, i gynnal dadl ar wahardd ysmygu mewn mannau cyhoeddus. Daeth y grŵp i’r penderfyniad i wahardd ysmygu mewn mannau cyhoeddus am resymau fel colli arian i fusnesau ar y stryd fawr.

photo2

Yna aeth y grŵp ymlaen i’r Senedd lle bu iddynt cyfarfod eu Aelod Cynulliad etholaethol, Rhun Ap Iorwerth AC.

Digartref Mon

Yn dilyn yr ymweliad dywedodd Kirsty Akrill, gweithiwr llais cymunedol ar gyfer Digartref Ynys Môn,

“Cafodd y grŵp amser gwych yn ystod yr ymweliad i’r Senedd.  Roedd yn gymorth i gael rhywfaint o ddealltwriaeth o sut y mae’r system yn gweithio cyn yr ymweliad ac roedd y gweithdai a ddarperir gan y tîm allgymorth yn help mawr iawn.  Roedd mor hawdd siarad â’r holl Aelodau Cynulliad bu i ni gyfarfod ac roedden nhw yn gwrando ar safbwyntiau a phrofiadau’r bobl ifanc. Mae ein hyder yn y maes hwn wedi tyfu ac rwy’n teimlo y bydd yn gwneud yn haws iddynt gael dweud eu dweud ar yr hyn sy’n bwysig iddynt hwy.”

Os hoffech chi fwy o fanylion am weithdai yn eich ardal chi ebostiwch ni ar: timallgymorth@cymru.gov.uk

Busnesau’n rhannu eu profiadau o allforio

Mae rhai o fusnesau a masnachwyr Cymru wedi cymryd rhan mewn cyfweliadau fideo’n ddiweddar  gyda thîm Allgymorth y Cynulliad. Cymerodd saith o fusnesau ran mewn cyfweliad pan ofynnwyd i berchnogion busnes roi sylwadau ar y modd y mae Llywodraeth Cymru yn hyrwyddo masnach a mewnfuddsoddiad, gan sôn yn benodol am y canlynol:

-y rhwystrau sy’n wynebu’r rhai sy’n ystyried allforio a pha mor effeithiol yw’r cymorth sydd ar gael gan Lywodraeth Cymru (a Llywodraeth y DU)  i leihau’r rhwystrau hynny;

– manteision allforio;

– a oes gan farchnadoedd tramor ddealltwriaeth lawn o’r hyn y gall Cymru a busnesau Cymru ei gynnig.

Roedd y busnesau a gafodd eu cyfweld yn cynnwys amrywiaeth o wahanol ddiwydiannau (gan gynnwys gweithgynhyrchu: Trax JH Limited, bwyd a diod: Brecon Brewing a melysion: Bon Bon Buddies), ac roeddent yn dod o wahanol rannau o Gymru (gan gynnwys Ceredigion: Howies, Ynys Môn: Halen Môn, a Llanelli: WeldWide Solutions). Roedd pob busnes heblaw un yn allforio’u cynnyrch ar hyn o bryd, ac roedd rhai ohonynt wedi cael cymorth gan Lywodraeth Cymru i’w helpu i fasnachu dramor, ond nid pob un.

Tom Vousden Design, cwmni dylunio dodrefn o Ynys Môn, oedd yr unig fusnes a gafodd ei gyfweld nad oedd yn allforio ar hyn o bryd, a soniodd am ei ddymuniad i wneud hynny yn y pen draw, er y byddai’n hoffi i Lywodraeth Cymru ei gynorthwyo drwy nodi partneriaid mewn marchnadoedd tramor.

Cafodd pob cyfweliad ei olygu mewn pecyn fideo a rannwyd yn ôl y themâu a gododd yn ystod y trafodaethau, sef:

–          Cymorth gan Lywodraeth Cymru;

–          Canfyddiadau presennol o frand Cymru;

–          Manteision masnachu’n rhyngwladol;

–          Rhwystrau i fasnach ryngwladol; a

–          Meysydd i’w gwella.

Disgrifiodd John Halle, Rheolwr Gyfarwyddwr Trax JH Limited y profiad:

“Rwy’n falch iawn i mi gael y cyfle i sôn am fewnfuddsoddiad a Llywodraeth Cymru …

Yr hyn yr hoffwn ei ddweud wrth bobl sy’n ystyried allforio… gallai Llywodraeth Cymru geisio denu rhagor o bobl sydd â phrofiad ym maes allforio, rhai sydd wedi goresgyn problemau, wedi mentro ac wedi llwyddo… a’u defnyddio nhw i siarad â phobl oherwydd eu bod yn gallu rhoi enghreifftiau o sut y mae pethau yn y byd go iawn”.

Dangoswyd y pecyn fideo i’r Pwyllgor Menter a Busnes fel rhan o’u hymchwiliad i fasnach a mewnfuddsoddiad mewn
cyfarfod yn y Senedd.

Gallwch wylio’r fideo cyfan yma:

Bydd y Pwyllgor yn awr yn ystyried cynnwys y fideo ynghyd â’r wybodaeth ysgrifenedig a gyflwynwyd, a’r cyfarfodydd a gafwyd gyda chyrff a busnesau perthnasol yn y Senedd. Bydd y Pwyllgor yn cael cyfle i holi tystion gan gynnwys cyfrifoldeb y Gweinidog, arbenigwyr polisi a chynrychiolwyr eraill.