Y Fframwaith Cyllidol / Cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2021-22 – Diweddariad gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid

Llyr Gruffydd ydw i, Aelod o’r Senedd a Chadeirydd y Pwyllgor Cyllid.

Mae gan y Pwyllgor Cyllid gylch gwaith pwysig iawn ac mae’n gyfrifol am ystyried, ac adrodd ar gynigion sy’n cael eu gosod gan Weinidogion Cymru gerbron y Senedd sy’n ymwneud â defnyddio adnoddau.

At hynny, gall y Pwyllgor ystyried a chyflwyno adroddiad ar unrhyw fater arall sy’n ymwneud ag ariannu neu wariant o Gronfa Gyfunol Cymru, neu unrhyw fater sy’n effeithio ar hynny.

Un o swyddogaethau’r Pwyllgor yw craffu ar gyllideb Llywodraeth Cymru, sydd oddeutu £18 biliwn y flwyddyn. Caiff cyllideb Cymru ei dyrannu gan Lywodraeth y DU ac mae’n cael ei phennu gan yr Adolygiad o Wariant, ac unrhyw addasiadau dilynol trwy fformiwla Barnett.

Er bod Llywodraeth Cymru yn cael ei hariannu’n bennaf trwy grant bloc gan Lywodraeth y DU, yn ystod y pedair blynedd diwethaf mae datganoli pwerau treth – gan gynnwys Cyfraddau Treth Incwm Cymru, Treth Trafodiadau Tir a Threth Gwarediadau Tirlenwi – wedi golygu bod tua 20 y cant o wariant Llywodraeth Cymru bellach yn cael ei ariannu trwy drethi.

Datganoli pwerau trethu a benthyca i Gymru

Deddf Cymru 2014 wnaeth ddarparu’r fframwaith deddfwriaethol ar gyfer datganoli pwerau trethu a benthyca i’r Senedd ac i Lywodraeth Cymru. Mae Rhan 2 o Ddeddf 2014 yn ymdrin â datganoli pwerau ariannol.

Er mwyn galluogi rhoi’r pwerau yn Neddf 2014 ar waith, daethpwyd i gytundeb rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ar ffurf y Fframwaith Cyllidol. Roedd hyn yn caniatáu datganoli treth dir y dreth stamp – Treth Trafodiadau Tir, erbyn hyn – yng Nghymru, Treth Tirlenwi – Treth Gwarediadau Tirlenwi, erbyn hyn – a rhoi Cyfraddau Treth Incwm Cymru ar waith.

At hynny, mae’r Fframwaith Cyllidol yn ymdrin â therfynau benthyca Llywodraeth Cymru, offer rheoli cyllideb, ymdrin ag effeithiau gorlifo polisi a threfniadau rhoi ar waith.

O ystyried bod y Ddeddf wedi bod ar waith ers 2014, mae’n teimlo fel amser perthnasol i’r Pwyllgor ystyried y Ddeddf, a gweithrediad ac effeithiolrwydd y Fframwaith Cyllidol. Rydym wedi lansio ein  hymgynghoriad, ac mae gwybodaeth bellach i’w chael ar ein gwefan. Ein bwriad yw dechrau gwrando ar dystiolaeth lafar yn nhymor yr hydref.

Cyllideb Llywodraeth Cymru ac Economi Cymru

Mae economi Cymru wedi profi ansicrwydd sylweddol yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf. Mae Deddf 2014 wedi rhoi pwerau i Lywodraeth Cymru amrywio trethi a gwariant yng Nghymru, sydd wedi ei gwneud yn fwy atebol i bobl Cymru. Yn ein hadroddiad ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2018-19, amlygodd y Pwyllgor ei fwriad i gynhyrchu darn o waith ar y parodrwydd ariannol ar gyfer gadael yr UE.

Ar y pryd, Brexit oedd yr ansicrwydd pennaf ar economi Cymru o hyd. Ym mis Medi 2018 gwnaethom gyhoeddi ein hadroddiad. Y llynedd, roedd Etholiad Cyffredinol y DU a Brexit wedi effeithio ar Gyllideb Ddrafft 2020-21 Llywodraeth Cymru. Cyflawnwyd y gyllideb o dan amgylchiadau “eithriadol”, a effeithiodd ar allu Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid eraill i gynllunio sut i ariannu gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.

Fodd bynnag, bydd cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru, sydd ar y gweill, hefyd yn cael ei hoedi gan nad oes gan Lywodraeth Cymru arwydd o gyfanswm y cyllid sydd ar gael hyd nes bod Llywodraeth y DU yn cyhoeddi Cyllideb neu Adolygiad o Wariant. Nid ydym wedi cael unrhyw arwydd gan Lywodraeth y DU o ran pryd i ddisgwyl hynny.

Rwyf i, ynghyd â’m cymheiriaid yn Senedd yr Alban a Chynulliad Gogledd Iwerddon, wedi ysgrifennu at Brif Ysgrifennydd y Trysorlys, gan bwysleisio pwysigrwydd amseriad cyllideb y DU ar gyllidebau llywodraethau datganoledig, o ystyried bod oedi ar lefel y DU yn effeithio ar y broses graffu.

Mae’r Pwyllgor mewn sefyllfa debyg i’r llynedd, gyda llai o amser ar gyfer cynnal gwaith craffu. Mae’n anochel y bydd pandemig Covid-19 a diwedd cyfnod pontio Brexit yn effeithio ar Gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru 2021-22, felly mae’n bwysicach fyth i gael cyfle i gynnal gwaith craffu o sylwedd.

Yn gynharach eleni gwnaethom gynnal gweithgaredd ymgysylltu ar-lein i geisio barn ar y meysydd lle dylai Llywodraeth Cymru flaenoriaethu ei gwariant, ac fe gafwyd rhychwant diddorol o safbwyntiau. Cafodd iechyd, addysg a’r newid yn yr hinsawdd eu hamlygu fel meysydd blaenoriaeth allweddol gan y cyfranogwyr.

Bydd y Pwyllgor yn ymgynghori ar Gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru 2021-22 yn nhymor yr hydref. Bydd manylion ar gael ar ein gwefan a byddwn yn eich annog i rannu eich barn ac ymgysylltu’n llawn â’r broses graffu, i’n galluogi i adrodd mewn ffordd gadarn, dryloyw ac effeithiol.

Leave a Reply

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Change )

Google photo

You are commenting using your Google account. Log Out /  Change )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Change )

Connecting to %s

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.