17 Chwefror 2015
Erthygl gan Alys Thomas a Rhys Iorwerth Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Mae cofnod blog blaenorol wedi amlinellu’r cefndir wrth i Lywodraeth Cymru fwrw ati i ddiwygio llywodraeth leol. Mae’r cofnod blog hwn yn edrych yn fanylach ar ambell fater a allai godi yn sgil Bil Llywodraeth Leol (Cymru), sef y cam deddfwriaethol cyntaf yn y broses honno.
(I gael rhagor o fanylion am y Bil ei hun, mae’r Gwasanaeth Ymchwil newydd gyhoeddi crynodeb o’r prif ddarpariaethau).
Uno gwirfoddol ac ansicrwydd ynghylch y map
Cafodd y Bil ei gyflwyno gan Lywodraeth Cymru ar 26 Ionawr 2015, ac yn ei hanfod mae iddo ddau brif amcan:
- Galluogi awdurdodau lleol sydd wedi gwneud cais llwyddiannus i uno’n wirfoddol i wneud hynny;
- Galluogi paratoadau i ddechrau ar gyfer creu awdurdodau lleol newydd, a hynny trwy uno gorfodol yn sgil ail Fil.
Cwestiwn sy’n codi’i ben yn syth yw’r angen…
View original post 878 more words