Mae’r Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol ar hyn o bryd yn cynnal ymchwiliad i Dlodi yng Nghymru. Cafodd yr ymchwiliad ei rannu’n bedair haen, gyda phob un yn canolbwyntio ar un mater penodol.
Ddydd Mercher 5 Tachwedd, cynhaliwyd digwyddiad yn yr Eglwys Norwyaidd, Bae Caerdydd, i lansio’r ymchwiliad ac i gynnal trafodaethau grŵp ffocws gydag unigolion o amryw o sefydliadau ledled Cymru sydd ar hyn o bryd yn ymdrin â thlodi. Ymhlith y themâu a drafodwyd ar y diwrnod oedd:
- Pa mor effeithiol y mae’r Cynllun Gweithredu ar gyfer Trechu Tlodi, y Cynllun Cydraddoldeb Strategol a strategaethau eraill y llywodraeth yn cydweithio
- Effeithiau tlodi, yn enwedig amddifadrwydd a thlodi eithafol, ar wahanol grwpiau o bobl
- Sut mae deddfwriaeth, polisi a chyllidebau sydd wedi’u hanelu at drechu tlodi a lleihau anghydraddoldeb yn cael eu cydgysylltu a’u blaenoriaethu ar draws Llywodraeth Cymru.
I weld rhagor o luniau o’r digwyddiad hwn ewch i’n tudalen flickr.
Ddydd Iau 27 Tachwedd a dydd Llun 1 Rhagfyr ymwelodd aelodau’r Pwyllgor â grwpiau amrywiol o bobl ledled Cymru, gan gynnwys BAWSO yn Wrecsam, Chwarae Teg yn Llanelli a Banc Bwyd Glynebwy.
Diben yr ymweliadau hyn oedd:
- Canfod sut mae gwahanol grwpiau o bobl yn profi tlodi, a’r heriau penodol a wynebir oherwydd eu nodweddion, er enghraifft: oed, anabledd, rhyw, statws ffoadur, lleoliad, cofnod troseddol ac ati;
- Ymchwilio i ba wasanaethau a dulliau sydd fwyaf effeithiol i atal pobl rhag mynd i dlodi, er enghraifft: rhaglenni cefnogi teuluoedd, gwasanaethau cynghori, cyflogaeth ddiogel a chefnogol, gofal plant, addysg, mynediad i’r rhyngrwyd, mesurau arbed ynni;
- Canfod pa mor gyson yw gwasanaethau i wella bywydau pobl mewn tlodi ledled Cymru, er enghraifft: banciau bwyd, mynediad at ofal iechyd, trafnidiaeth, benthyciadau argyfwng a chyngor ar ddyled.
Tlodi tanwydd, mynediad i dai a mynediad i addysg a hyfforddiant oedd rhai o’r pethau trafodwyd fel y prif faterion sy’n wynebu pobl ar incwm isel.
Bu’r Pwyllgor hefyd yn clywed tystiolaeth lafar yn ystod ei gyfarfodydd pwyllgor yn y Senedd. Mae eisoes wedi siarad â Mary Powell-Chandler, Pennaeth Achub y Plant, Dr Sam Clutton, Cyfarwyddwr Cynorthwyol, Polisi, Barnardo’s Cymru ar ran y Rhwydwaith Dileu Tlodi Plant (ECPN) a Catriona Williams o Rwydwaith Dileu Tlodi Plant Cymru, Plant yng Nghymru a Chomisiynydd ar Gomisiwn Symudedd Cymdeithasol a Thlodi Plant y DU.
Bydd y Pwyllgor yn parhau i gasglu tystiolaeth cyn ysgrifennu ei adroddiad a fydd yn cynnwys argymhellion i Lywodraeth Cymru. Pan gaiff ei gyhoeddi bydd yr adroddiad ar gael yma.
Gallwch gael y wybodaeth ddiweddaraf am ymchwiliad y Pwyllgor drwy ddilyn @SeneddCCLLL ar twitter.
Diolch i bawb sydd wedi cyfrannu i’r ymchwiliad hyd yn hyn.