Gan Sonam Patel, Y Tîm Digwyddiadau Corfforaethol
Cymerodd y Senedd, cartref Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ran yn y digwyddiad #LightsOut ddydd Llun 4 Awst. Diffoddodd y Senedd ei oleuadau rhwng 22.00 a 23.00, gan adael un golau yn unig fel symbol o fyfyrdod a gobaith i nodi canmlwyddiant dechrau’r Rhyfel Byd Cyntaf. Penderfynodd Cynulliad Cenedlaethol Cymru gymryd rhan yn y digwyddiad #LightsOut ochr yn ochr â thirnodau cenedlaethol ledled y DU, nid yn unig i rannu’r profiad ond er mwyn dangos parch, edmygedd a diolchgarwch i’r rhai a gollwyd yn y rhyfel 100 mlynedd yn ôl.
Dyma sut mae’r Senedd fel arfer yn edrych gyda’r nos. Delwedd o Flickr gan identity chris is. Trwydded Creative Commons.
Roedd y gwaith paratoi ar gyfer y digwyddiad hwn yn eithaf syml, gan sicrhau bod golau’r Senedd yn cael ei osod ar amserydd ac yn diffodd am 21.59. Gyda chymorth Martin Hunt, Cyfarwyddwr Technegol Canolfan y Mileniwm, gosodais un sbotolau yng nghanol y Neuadd i ddisgleirio tuag at Fae Caerdydd am union 22.00. Yna, aeth Jason Allan, y Pennaeth Diogelwch, â ni y tu allan i’r Senedd lle roeddem yn gallu gweld effaith y sbotolau yn erbyn y tywyllwch y tu mewn i’r Senedd. Gwnaeth torf fechan ymgynnull y tu allan i dynnu lluniau a siaradodd pobl am arwyddocâd y golau. Roedd yr awyrgylch yn hyfryd ac roedd yn wych gweld bod y BBC a Gwesty Dewi Sant wedi ymuno â ni yn y Bae i oleuo un golau. Yna, dychwelodd Jason a Martin i’r Senedd i ddiffodd y golau am 23.00 gan adael i mi rannu lluniau o’r digwyddiad gyda’n dilynwyr ar Twitter a Facebook
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn falch iawn o fod wedi cymryd rhan yn y digwyddiad unigryw hwn a thros y pedair blynedd nesaf bydd yn cynnal cyfres o ddarlithoedd, dadleuon ac arddangosiadau i nodi canmlwyddiant y Rhyfel Mawr a’i effaith ar bobl Cymru.
Delwedd o Flickr gan blogdroed. Trwydded Creative Commons.