30 Gorffenaf 2014
Erthygl gan Philippa Watkins, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Yn sgîl y cynnydd cyflym yn y defnydd o’r cyffur mephedrôn (meow meow, m-cat) yn 2009, mae cyffuriau penfeddwol cyfreithlon yn cael eu hystyried yn fygythiad cynyddol.
Mae ‘cyffuriau penfeddwol cyfreithlon’ yn derm cyffredinol ar gyfer amrywiaeth o sylweddau, gan gynnwys cyffuriau presgripsiwn megis tawelyddion, ond mae’n cyfeirio gan amlaf at ‘sylweddau seicoweithredol newydd’, sef cyffuriau a syntheseiddir i greu’r un effeithiau â chyffuriau anghyfreithlon neu effeithiau tebyg. Gan mai newyddbethau ydynt, a chan fod y cyfuniad o gemegion yn gallu bod ychydig yn wahanol i sylweddau gwaharddedig, nid yw sylweddau seicoweithredol newydd yn cael eu rheoli yn awtomatig o dan ddeddfwriaeth cyffuriau (yn y DU, Deddf Camddefnyddio Cyffuriau 1971).
Llun: o Wikimedia Commons. Dan drwydded Creative Commons
Y ffactorau pennaf am y cynnydd yn y defnydd o’r sylweddau hyn, fe dybir, yw eu bod ar gael…
View original post 521 more words