Cafodd cynrychiolwyr o’r diwydiant twristiaeth yng Nghymru gyfle i gyfarfod ag Aelodau’r Cynulliad i drafod ac asesu’r cynnydd a wnaed gan Lywodraeth Cymru tuag at gyflawni ei ymrwymiadau yn y Rhaglen Lywodraethu sy’n ymwneud â thwristiaeth. Roedd hyn yn rhan o Ymchwiliad y Pwyllgor Menter a Busnes i Dwristiaeth
Cafodd y digwyddiadau, a gynhaliwyd yn Oriel y Parc yn Nhyddewi ac Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, eu rhannu’n ddwy drafodaeth, gyda syniadau a barn y ddau grŵp yn cael eu rhannu ar Bord Twitter.
Cafodd y drafodaeth yn Oriel y Parc ei hwyluso gan Joyce Watson AC, Suzy Davies AC a Julie Morgan AC, a’r drafodaeth yng Nghaerdydd ei hwyluso gan Keith Davies AC, William Graham AC ac Eluned Parrott AC.
Roedd y trafodaethau’n canolbwyntio ar (ond ddim wedi’u cyfyngu i) y themâu a ganlyn:
- Eglurder a chryfder “brand” twristiaeth Cymru;
- Effeithiolrwydd ymdrechion Llywodraeth Cymru i gynyddu gwerth y farchnad dwristiaeth ddomestig a rhyngwladol;
- Perfformiad Croeso Cymru o gymharu ag asiantaethau datblygu twristiaeth yng ngweddill y DU;
- Gwaith Visit Britain mewn perthynas â Chymru, ac i ba raddau y mae Visit Britain a Croeso Cymru yn cydweithredu;
- I ba raddau y mae marchnata a datblygu twristiaeth yng Nghymru yn gwneud y mwyaf o asedau diwylliannol, hanesyddol a naturiol Cymru; ac
- Effaith digwyddiadau mawr ar economi twristiaeth Cymru, a llwyddiant ymdrechion Llywodraeth Cymru i fanteisio i’r eithaf arnynt.
Cafwyd trafodaeth grŵp am 45 munud a sesiwn adborth fer ar y diwedd.
Caiff nodyn am brif bwyntiau trafod y digwyddiadau ei gyhoeddi cyn bo hir ar y linc yma.
Gallwch wylio sesiynau tystiolaeth y Pwyllgor ar www.Senedd.tv.
Mae’r Pwyllgor yn gobeithio cynhyrchu adroddiad gydag argymhellion i Lywodraeth Cymru yn y tymor nesaf, wedi iddynt gyfarfod â chynrychiolwyr o’r diwydiant twristiaeth yng Ngogledd Cymru. Bydd casgliadau’r digwyddiadau yn sail i’r adroddiad a’r argymhellion. Cewch weld yr adroddiad llawn yma pan fydd wedi’i gwblhau.
One thought on “Y Pwyllgor Menter a Busnes – Ymchwiliad i Dwristiaeth”