Ar 12 Rhagfyr 2013, cynhaliodd y Gwasanaeth Ymchwil ddigwyddiad yn y Cynulliad gyda Chanolfan Llywodraethiant Cymru, Prifysgol Caerdydd, i drafod y refferendwm ar annibyniaeth yn yr Alban y flwyddyn nesaf. Y prif siaradwr oedd yr Athro James Mitchell o Brifysgol Caeredin, sy’n arbenigwr blaenllaw ar wleidyddiaeth yr Alban, a rhoddwyd y cyflwyniadau a’r sylwadau agoriadol gan Owain Roberts o’r Gwasanaeth Ymchwil. Mae fideo o’r sesiwn ar gael isod.