Ar 14 Tachwedd, cymerodd rai o staff Cyngor ar Bopeth gogledd Cymru ran mewn cwrs a drefnwyd gan dîm Allgymorth y Cynulliad yn swyddfa Cynulliad Cenedlaethol Cymru ym Mae Colwyn. Cawsant gyflwyniad ar waith y Cynulliad gan Reolwr Allgymorth gogledd Cymru yn ogystal â sesiwn gyda rhai o Aelodau Cynulliad gogledd Cymru. Soniodd Mark Isherwood AC, Antoinette Sandbach AC ac Aled Roberts AC am eu rôl fel Aelodau a sut maen nhw’n cynrychioli rhanbarth gogledd Cymru yn y Cynulliad. I orffen, rhoddodd aelod o Bwyllgor Deisebu’r Cynulliad sgwrs am broses ddeisebu’r Cynulliad Cenedlaethol. Dywedodd y criw bod eu dealltwriaeth o waith y Cynulliad wedi gwella o ganlyniad i’r sesiwn a bod y sgyrsiau a gafwyd gyda’r Aelodau wedi bod yn fuddiol tu hwnt.